User Name: Password:
New User Registration
Moderator: TJ 
 Poetry

An outlet for players whose creativity extends beyond the board. Post your original works here!

The posting of song lyrics is not the purpose of this board and as such please refrain from doing so. Exceptions can be made to this rule if you are the copyrighted owner of the lyrics and the lyrics are not found offensive by the majority of the population.
This board is a place to post your original works of poetry and prose and also a place for discussion of poetry and related areas.

We have received word from Fencer that other's poetry can be posted to this board. These are the two conditions:
1) When someone posts a known copyrighted poem, he must add the author's name as well
2) If the author is not known, the poem can be posted without problems


List of discussion boards
Mode: Everyone can post
Search in posts:  

25. August 2003, 22:13:31
cariad 
Subject: Bloeddier i Bobloedd y Byd
BLOEDDIER I BOBLOEDD Y BYD

A sylwoch mor ddiamser
yw dyn wrth ddod at iaith newydd?
Bydd, fe fydd yn baglu dros gytseiniaid,
yn gohirio llafariaid,
yn gwisgo holl arfogaeth ei ddyhead
am fuddugoliaeth dros fynegiant.
A bydd, fe fydd ei dafod
fel baban bach ar ei ben ôl.

Felly, bydded i bob un o genhedloedd byd
ddysgu iaith esgymun ei gymydog.
Ie, cropian a chwrian mewn corneli,
colli cwsg wrth ei thrwsglo;
cans fel hyn y daw dileu yr amserau.
Ni ddaw'r gorffennol yn rhwydd ar dafod.
Erys iaith heddiw. Bydd yn ddeiseb hedd –
gan dynnu i lawr yr holl ferfau pigog;
ni fyd yr amherffaith mor berffaith
a phan nad yw.

A bydd agen, hollt a rhwyg
yn cael eu cyfrannu'n geg agored.
Pob newydd ddysgwr â chof
am gyweirio cystrawennau
cyfod o'i wely, unioni llef.

Ni fydd amser i ledu llid,
cans bydd llwythau wedi eu llethu
â chyfoeth yr holl gerrig arloesi.

A thrwy'r babanod yn Babel bydd iau
wedi ei chodi a'r Uniaith yn iachâu
wrth ymryddhau, rhyddhau wrth hau.

Date and time
Friends online
Favourite boards
Fellowships
Tip of the day
Copyright © 2002 - 2024 Filip Rachunek, all rights reserved.
Back to the top